AdminHistory | Ganed John R. Jones, Ogwenydd ym 1860 yn fab i Richard ac Ann Jones o Fethesda. Roedd ganddo bump o frodyr a bu'n gweithio yn Chwarel y Penrhyn. Pan yn 16 mlwydd oed symudodd y teulu i fyw i Flaenau Ffestiniog. Mae ei lawysgrifau yn datgelu iddo symud yn ddiweddarach o Flaenau Ffestiniog i Dregarth, a'i fod yn gystadleuydd brwd mewn Eisteddfodau ac yn cyfrannu i bapurau newydd. |