Rhif Cyf AmgBMSS/370
TeitlLlythyrau
DisgrifiadMae Eben Fardd yn sôn am salwch ei fab, afiechyd ei wraig a pheth o'i hynt Eisteddfodol yn y llythyrau hyn.
Tri llythyr at Mr Ellis James y Faenol (Ty'nllwyn wedi hynny) yn manylu ar hynt addysgol rhai o bregethwyr ieuainc Arfon yn Ysgol Clynnog.
Ugain at Meinwen Elwy neu ei merch (gwraig Robert Davies (Cyndeyrn)), y cerddor o Lanelwy.
Yn XXVI gwelir dau englyn a gyfansoddodd i Feinwen Elwy pan ar ei ffordd i Eisteddfod Dinbych. Yn XXV ceir pum englyn a ysgrifennodd (15 Mai 1860) "mewn salwch ac ymddifadrwydd". Yn XXV gwelir cyfeiriad at Y Parch. Joseph Hughes (Carn Ingli), sylw ar waith meddyg traed o Ruthun a sylwadau edmygol ar un o farwnadau Gwilym Hiraethog.
Dyddiad1853-1862
AdminHistoryBardd oedd Ebenezer Thomas (Eben Fardd) a aned ym 1802 yn Llanarmon, sir Gaernarfon. Deuai o gefndir digon tlodaidd ac ar ol cyfnod o feddwdod, ymgartrefodd yng Nghlynnog Fawr a daeth yn Brifathro ac yna yn siopwr.

Enillodd nifer o gadeiriau Eisteddfodol. Roedd ganddo fab, James E. Thomas, a dwy ferch. Bu farw ym 1863.
    Pwerir gan CalmView© 2008-2012