AdminHistory | Roedd y diwydiant gwlan ymysg y diwydiannau pwysicaf yng Nghymru hyd ganol y pedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ôl J. Geraint Jenkins yn ei lyfr "The Welsh Woollen Industry", "By the first decade of the nineteenth century, the whole of Caernarvonshire had become an important textile manufacturing district, mainly concerned with supplying woven cloth to a local market". Mae'n amlwg fod ffatri Rhyd-y-gwystl yn cynhyrchu rhwng 1835 a 1882. Nodir yn ddiweddarach fod Ellis Roberts yn byw yn Bryn-y-pin, Garn Dolbenmaen. |