Alt Ref NoBMSS/465
TitleLlyfr cyhoeddiadau y Parch. Thomas Rhys Davies
DescriptionLlyfr yn cynnwys testunau pregethau a'r lleoliad lle y cawsant eu hanerch. Ceir hefyd nifer o gyfeiriadau at ei fywyd - nodiadau ar y tywydd, cyfeiriad at adeiladu Pont Borth ym 1815 ac at ddigwyddiad lle bu bron iddo ef a'i wraig foddi mewn afon !
Date1806 - 1828
AdminHistoryGaned Thomas Rhys Davies (1790-1859) yng Nghilgerran, Sir Benfro lle'r oedd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr. Ym 1811, ymwelodd a gogledd Cymru ac fe'i darbwyllwyd i aros a gwasanaethu cylch Llansanffraid Glan Conwy a Rowen yn Sir Ddinbych.

Dadlodd gyda'r eglwys yng Nglanwydden ym 1820, gan adael y Bedyddwyr i ymuno a'r Wesleaid. Ail-ymunodd a'r Bedyddwyr flynyddoedd wedyn.

Priododd Ann Foulks o Landrillo-yn-Rhos ym 1814 a bu farw ym 1859 yn Abertawe.
    Powered by CalmView© 2008-2024