AdminHistory | Roedd John William Prichard (Prisiart), 1749-1829, o Plas-y-Brain, Llanbedr-goch, Ynys Môn yn fab i William a Jane Prichard o Glasfryn Fawr, Llangybi, ac yn ddiweddarach o Bodlew, Anglesey.
Fe'i ganed yn 1749 a priododd yn gyntaf Catherine, merch Dafydd Roberts o Plas Llandyfrydog. Ei ail wraig oedd Gwen, merch William Owen o Crafnant, Llanfair, Merioneth a chawsant bedair merch (Gwen, Elizabeth, Catherine a Margaret) ac un mab (William).
Roedd John William Pritchard yn hynafiaethydd a fyddai'n cael ei alw yn aml fel canolwr gan bleidiau a oedd yn dadlau ynglyn â pherchnogaeth tir. Roedd hefyd yn arolygydd priffyrdd ym Môn.
Bu farw yn 1829 yn 80 mlwydd oed a chafodd ei gladdu yn Llangwyllog. |