AdminHistory | Ganed y Parch. James Davies ar 22 o Ragfyr 1800 ym mhlwyf Penbryn, Sir Geredigion. Roedd ei dad yn ysgolfeistr ac yn sgolor o'r radd uchaf. O ganlyniad, addysgwyd James Davies yn dda, a daeth yntau yn ysgolfeistr. Daeth yn aelod o'r Methodistiaid Calfinaidd yng Nghei Newydd, sir Geredigion pan yn 21 mlwydd oed ac fe'i ordeinwyd ym 1841 yn Llangeitho. Bu farw ym 1853 ar ol salwch hir. |