Disgrifiad | Rhif 1-5 Llythyrau yn llaw John Elias. Yn rhif 4 ceir ef yn rhoddi profiadau hen bobl am Daniel Rowlands, Llangeitho, sef profiadau a glywodd ef pan yn fachgen ieuanc. Llythyr at Dewi Wyn o Eifion yw rhif 5.
Rhif 6-21 Llythyrau gan neu ynghylch John Elias. Nodiadau ar bregeth (Esaiah vi, 9-10 yw rhif 6. Copi o'r llythyr a anfonwyd iddo gan Fonwyson carcharedig yn rhyfeloedd Napoleon yw rhif 7 (11 Mawrth 1811). Atgofion am John Elias yw rhifau 13-18 a nodiadau ar bregethau yw rhifau 19-21, ond nid i gyd gan Elias.
Rhif 22-38 Sylwer ar waelod rhif 22 y nodyn "These mss hymns, said to be the compositions of Mr Jones, Llangan, I obtained from Mr Davies of Fishguard, Mr Richard's son-in-law. He has many other mss"
Rhifau 39-40 Dau lythyr oddi wrth y Parch. Ddr. John Hughes, Llannerch-y-medd, Lerpwl a Chaernarfon (1852, 1866)
Rhif 41 Llythyr diddorol iawn oddi wrth dad Pedr Fardd at Daniel Jones, Brunswick Street, Lerpwl (mab hynaf Robert Jones, Rhoslan). Prawf y llythyr hwn fod William Jones, Brynengan, sef tad Pedr yn wr o addysg dda, ysgrif gelfydd barod, ac yn fardd nid anheilwng. Tystia'r un llythyr for Daniel Jones newydd briodi, fod Peter Jones yn was yn siop Daniel Jones, fod Michael Roberts (Pwllheli) yn ddyfal am ei ddysg yn Lerpwl ar y pryd, a bod Sara, chwaer Pedr, "yn danbaid iawn am ddod i Lpool galamai", 2 Mawrth 1799
Rhif 42 Llythyr oddi wrth William Jones, Penyparc at J. Jones, Hill Street corner of Grafton Street near Bedford St, Welsh Chapel, Liverpool", 27 Ebrill 1835
Rhif 43 Llythyr oddi wrth Richard Lloyd Beaumaris at Mr Richard Roberts, Ship Chandler, Liverpool, 3 Ebrill 1832
Rhif 44 Llythyr at Robert Jones, Rhoslan oddi wrth John Pierce, un o'r hen bregethwyr Methodistaidd. Llawn o hanes mwrdradau, lladrad a digwyddiadau trychinebus; cyfeiridau at Daniel Rowlands, Mr Jones Langan, a Williams Pantycelyn, 30 awst 1786
Rhif 45 Llythyr John Pierce at Robert Jones (yn awr o'r Ty Bwlcyn, Llaniestyn). Anghydwelediad ynghylch llyfrau. Taflen ohonynt, 15 Mehefin 1795
Rhif 46 Llythyr oddi wrth J. W. Prisiart o'r Chwaenwen Uchaf at Lewis Parry, Genfro isaf, Llanddyfnan. Cymeradwyo gwin at lesgedd corff, son am anfon copi o un o lythyrau Goronwy i Mattew Owen "gyda y defnydd baglau Cyrn"; cyfeiriad at Leuad yr Oes (a ddechreuodd ddod allan yn 1827), 18 Gorffennaf 1828 |