Description | Copiau ydynt, yn ol pob tebyg, o lythyrau a roddwyd yn fenthyg i'r diweddar Ddr. John Williams pan yn paratoi ei ddarlith enwog ar Elias. Un copi yn unig sydd yn llaw'r Ddr.; gwnaed y gweddill gan ei ferched, efallai. Y mae'r mwyafrif ohonynt yn newydd hollol : nid oes gopi arnynt yn y casgliad o Letter a ologwyd gan offeiriad Syston yn 1847 nag yn y Memoir a gyhoeddwyd gan yr un gwr yn 1844, nag yn y Cofiant gan y Parch. william Prichard o Bentraeth. Nid oes obaith cael golwg gywir a chyflawn o yrfa ac osgo meddwl John Elias o Fon heb fanylu'n glos ar y pentwr llythyrau hyn. Llythyrau at ei ferched yw 6-12; llythyr ar Lady Bulkeley (a ddaeth ymhen y rhawg yn ail wraig iddo) yw 13; a llythyr Dafydd Elias o Bentraeth. ei frawd, yn dweud hanes y dyddiau olaf 'ar mawr yw 14. Llythyr John Elias ar John ei fab yw corff mawr 15-87, a baich y rhan fwyaf ohonynt yw ei gynghori pa fath wraig i ymorol amdani, a'i gynghori drachfen pa fodd i ymddal o dan yr amryw siomedigaethau carwriaethol a ddaeth i ran y mab diamynedd hwnnw. Lythyrau at John Jones Y Printer o Lerpwl yw 88-90, a cheir atodiad hir i'r olaf, sef y llythyr i'w ddarllen wrth eglwys Pall Mall ar achlysur marw'r hen weinidog Thomas Hughes yn 1828. Ymestynna dosbarth 91 -108 o'r flwyddyn 1813 i 1835; ysgrifennwyd hwy ymron i gyd at Mr John Davies, Fronheulog, Corwen, gydag un diddorol odiaeth at y Parch. Richard Lloyd, Beaumaris. Llythyr y Parch. Henry Hughes, Bryncir yw 109 yn amgau copi o lythyr John Elias at y Parch W.T. Williams, Remsen, N.Y. (21 Chwefror 1838). Copi o gofnod y North Wales Chronicle am gladdedigaeth John Elias yn 110. Rhai o lythyrau yr his aruthr, a beichus eu darllen i'r oes arwynebol seciwlaraidd hon e.g. lythyr 16, sy'n llawn o esbonio adnodau dyrys i'w fab pan yn yr ysgol yng Nghaer. Prin yr oedd Elias yntau, er mor ddeddfol ydoedd, yn llwyddo bob amser i fod yn gyson ag ef ei hun; galwa's tuckelings ffasiynol yn faner Satan (17) ond mae'n hollol barod i anfon trowsus wine-colour i'w fab am fod hwnnw yn gofyn am y lliw hwnnw. (24) Rhydd gynghorion buddiol i'r un mab mor bwysig oedd cyfatebrwydd sefyllfa wrth briodi (25) yn 1830 priododd ef a gweddw Syr John Bulkeley o Bresaddfed. Gwyddai J.E. o'r gorau y byddai'r holl wlad yn wbwb drwyddi pan glywai am y briodas hon yn Eglwys Dewi Sant yn Lerpwl; efallai mai y tameidiau mwyaf rhamantusyn y gyfrol y ei lythyr esgusodol at ei blant yn Llanfechell (42) a'r llythyr hanner-torcalonnus at Richard Lloyd Beaumaris (104) Gwthiai pethau'r byd hwn yn bur drwm ar ei anadl - prynu nwyddau i'r siop (12,33,39) trybini ariannol ei fab-yng nghyfraith, tymer anystywallt John ei fab. A phwy a yfodd win yn 1834 gwerth y sem o £4 8.6. (79)? Nid oedd aflonyddu ar addoli heddychol ychwaith drosodd, fel y tystia hanes oedfa Llanidloes yn 1819 (17) a thwrw Harri Bwcle ym Môn yn 1823 (29,30) Pwysleisia'r llythyrau yma, drwm geidwadaeth John Elias ar yr oochr boliticaidd : gwrthwynebu rhyddfreinio'r Pabyddion (31,39); diffyg cydymdeimlad a'r Reform Bill (63, 64, 95); ei lythyr gochelgar yn y Record yn nechrau 1833, a'r ysgrifennu brwd a ddilynodd (74); a'i ysgorn o betisiwn y Dissenters yn 1834 am gael llacio tipyn ar gyfreithiau eglwysig priodi yn yr Eglwys (107). Meddai Elias - "We have more work then we can do without Marr[y]ing people, the Marriage service is excellent indeed" HOllol gydweddol a hyn oedd argraffu ei bregeth farwnad am Sior III(98,99) ac arfer ei ddylanwad i gael pregeth neu gwrdd gweddi ym mhob capel Methodus ym Mon ddiwrnod coroni Sior IV (101) Amryw gyfeiriadau eraill diddorol dros ben - dweyd yn 1839 na chollodd ef Sasiwn y Bala am 46 mlynedd bwygilydd (9); darpar guard Cymreig ar y goach fawr i JOhn Jones Llanllyfni pan oedd hwnnw ar ei ffordd o Lerpwl i Lundain (1829) profion amlwg o effaith y ddamwain gas a'i cyfarfu yn haf 1832 Ar du cefn 73, fe welir copi yn llaw Dr. John Williams o lythyr a anfonwyd gan y Parch. William Williams, Ty Calch at y Parch. Owen Jones (Meudwy Mon). Son am hynafiaethau a gwrthwynebiad Dafydd Elias o Bentraeth u swcro athrofeydd. |