AdminHistory | Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd John Williams, 1854-1921. Fe'i gwnaethpwyd yn weinidog ym Mrynsiencyn lle'r oedd yn hynod o boblogaidd. Yn 1895 symudodd i Lerpwl ond ar ei ymddeoliad dychwelodd i Fôn.
Roedd John Elias yn weinidog hynod o adnabyddus. Fe'i ganed yn 1774, a cafodd ei ordeinio yn 1811. Priododd gydag Ann, gweddw Syr John Bulkeley o Presaddfed, Bodedern. Bu farw yn 1841. |