AdminHistory | Ganed Henry Hughes, Bryncir yn Rhoslan, Sir Gaernarfon yn 1841. Roedd yn un o blant Diwygiad 1859. Wedi iddo gael ei ordeinio yn 1871 daeth yn weinidog ar gapeli yn Garndolbenmaen, Bryncir a Brynengan. Fodd bynnag, oherwydd y pellter mawr rhwng y capeli, bu raid i Henry Hughes roi'r gorau i Gapel Garndolbenmaen. Bu'n weinidog ar y ddau gapel arall am 45 o flynyddoedd. Ymysg ei gyhoeddiadau mae gweithiau am y diwygiadau crefyddol yng Nghymru a hanes ysgolion Sul yn Eifionydd. Bu farw yn 1924 cyn iddi allu ysgrifennu hanes Methodistiaeth Calfinaidd yn Llyn ac Eifionydd - pwnc yr oedd wedi bod yn casglu deunydd ar ei gyfer ar hyd ei oes. |