AdminHistory | Priododd Mary Parry o Lundain gydag R. Silyn Roberts, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a bardd, ym 1905. Cawsant 2 o feibion ac un merch. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn ysgrifennydd y WEA a sefydlwyd gan ei gwr ym 1925. Ym 1911-1912 gwahoddwyd R. Silyn Roberts gan David Davies, Llandinam i fynd i America i arwain ac arolygu cor y Moelwyn. Eu gwaith oedd casglu arian at y grwsad yn erbyn y darfodedigaeth yng Nghymru. Bu farw R. Silyn Roberts ym 1930. |