AdminHistory | Roedd Thomas Williams yn byw yn Rhiwlas, Sir Gaernarfon ac yn gweithio yn chwarel Cae Braich y Cafn ym mhlwyf Llanllechid. Roedd yn aelod o'r Wesleyaid, ac mae'n amlwg o'i ddyddiaduron iddo gael ei ddylanwadu gan ddiwygiad 1904-1905. O ran gwleidyddiaeth, roedd yn ddyn ceidwadol, ac yn amlwg yn erbyn cael hunan-lywodraeth i Gymru. Roedd yn aelod o Bwyllgor Ceidwadwyr Rhiwlas a Waen. |