AdminHistory | Disgrifiwyd Robin Ddu Eryri gan Thomas Richards, cyn lyfrgellydd y Brifysgol, fel darlithydd, bardd, pregethwr, llwyrymorthodwr, meddwyn a dihiryn Fe'i ganed yng Nghaernarfon ym 1804 fel Robert Parry, mab i deiliwr a meddyg esgyrn. Roedd ganddo nifer o alwedigaethau. Bardd crwydrol, athro, darlithydd a chlerc mewn swyddfa cyfreithwyr. Roedd yn lefarydd ar gyfer y Mormoniaid ac yn olygydd Y Wawr rhwng 1850-1852. Bu farw ym 1892. Cyfansoddodd ganoedd o farwnadau a cherddi ar gyfer priodasau ac fe gyhoeddwyd ei waith ym 1857 o dan y teitl Teithiau Barddoniaeth Robyn Ddu, a oedd hefyd yn cynnwys hunangofiant. |