Description | i. "Chydig o gân" gan John Evans o'r Waun, Llanwddyn ii-iii. May o waith John Evans. Rhywbeth tebyg i farwnad, a rhan arall yn canmol gwaith mor gyffredin a chodi gwaliau ar y mynydd. 1818 iv. Cerdd o gyfieithiad Goronwy Owen. Stori Goronwy yn laslanc yn Ninbych. Copi yw hon o gopi Jon williams, Plas-y-Brain, 1799 v. Awdl ar ddyfodiad teulu Tudur i Orsedd Prydain, gan Owain Cyfeiliog, Bryn yr Awen, Gorffennaf 1821 vi. Anglynion gan Dewi Wyn wrth ddyfod i Sir Fôn i rodio yn nechrau Mehefin 1822 vii. Ymdderu rhwng David Jones ac Eben Fardd ynghylch Titotaliaeth. Chwefror 1837 viii. Cyfansoddiad prydyddol er coffadwriaeth am Llwydlas, ar y Don Gymreig Cwympiad y Dail, addasedig at ganiad gyda'r delyn...gan Aneurin Gwawdrydd. 1842 ix. Chwe pennill - Can y bardd wrth farw. Yr unig beth diddorol yma yw y geiriau hyn ar y gwaelod yn llaw Llew Tegid "Ysgrif Mr. John Evans o Dalynomt, Ceredigion, cydfyfyriwr" x. Llinellau i ddarluniau Mr a Mrs W.J. Parry, Bethesda yn llaw Tanymarian, 21 Rhagfyr 1874 xi. Pedwar englyn gan Gaerwenydd Pritchard i'r un darluniau xii. Englynion a gyfansoddwyd ar ôl talu ymweliad a chael ymgom yn y Gymraeg gyda Prif Athraw H.R. Reichel, M.A... Dydd Gwyl Dewi 1887. Cadwen hir gan y Parch Richard Parry (Gwalchmai) xiii. Englynion y Tramp, gan Gwydderig, un o brif englynwyr ei oes xiv. "John William y Fron" gan Thomas Jones, Ysbytty Ifan xv. Llythyr oddi wrth W.J. Parry, Bethesda, 4 Mehefin 1892 yn amgau y llawysgrifau sy'n dilyn xvi. Llythyr maith a diddorol oddi wrth E.G. Salisbury at y Parch. E. Stephen, Tanymarian, yn rhoddi atgofion am Dr Arthur Jones o Fangor, 15 Hydref 1884. xvii. Llythyr oddi wrth Salisbury at Tanymarian, 26 Tachwedd 1884 xviia. Llythyr diddorol iawn oddi wrth Dr Arthur Jones at Evans Evans, Towyn ynglych cyfathrach Caledfryn i Siartiaid Pontypridd, Chwefror 1840 xviib. Llythyr oddi wrth Dr Arthur Jones yn rhyddhau Robert Abraham o'i dymor prentisiaeth, Mai 1855 xviii. Llythyr oddi wrth Robin Ddu Eryri at Mr Evan Evans, Ty Mawr, Towyn, Meirionydd, 10 Hydref 1842. Mr Evans oedd tad y Dr Griffith Evans, Bryncinallt, Bangor sydd yn awr (Ebrill 1932) yn prysur gyrraedd ei gant oed. Dirwestwr eiddgar iawn oedd Robin ar y pryd, a thebyg mai at y dyn cymedrol Caledfryn y cyfeirir yn yr englyn ar waelod y llythyr. xix. Llythyr oddi wrth Robin Ddu at Mr Evans, 4 Mai 1875 xx. Llythyr oddi wrth Robin Ddu at Mr Evans yn amgen copi o draethodl ar "Ewyllys Adda!", 12 Gorffennaf 1880 xxi. Llythyr oddi wrth y Parch Michael Jones, hynaf at y Parch Michael Jones, ieuaf, 28 Gorffennaf 1853 xxii. Nodiadau ar bregeth y Parch. William Roberts, Penybont Fawr, yn hen gapel Llanuwchllyn. Y copiwr oedd John Jones, Ty'n y wern xxiii. Llythyr oddi wrth D. Milier Aubrey, Llannerch-y-medd at Llew Tegid. Son am flwch snisin Talhaiarn, spectol Dafydd Ddu Eryri, Mills y ffotograffydd, Parry Coetmor etc. Bu'r blwch a'r spectol ym meddiant Llew Tegid hyd ddiwedd ei oes. xxxiv-xxxv. Llythyrau oddi wrth Syr Owen Edwards at Llew Tegid, 1893, 1895 xxxvi. Llythyr diddorol oddi wrth y diweddar Syr Harri Reichel, 21 Ebrill 1888 yn diolch am gopi o xii. uchod. xxxvii. Llythyr oddi wrth rhywun o Lansannan, 1910 yn rhoddi geiriau ac alaw "Gwn Dafydd Evan" xxxviii. Llythyr oddi wrth M. Owen Davies, Dinbych, 10 Chwefror 1912, yn cyfleu alaw "Hela'r Dryw" xxxix. Llythyr oddi wrth Dr Mary Davies, 19 Mawrth 1916 yn sôn am rai o alawon gwerin Lloegr xl. Enwau a llawysgrif Cymry Patagonia ac eraill o'r Cymry ar wasgar a groesawyd yn Eisteddfod Llangollen, 4 Medi 1908 xli. Duchangerdd Wladvaol (yn orgraff y Wladva)" gan Lewis Jones (un o'r sylfaenwyr a thad Eluned Morgan |
AdminHistory | xvi. Yr oedd E.G. Salisbury wedi priodi merch Dr Arthur Jones. Roedd hefyd yn A.S. dros ddinas Caer ac yn un o brif gasglwyr llyfrau ei oes. |