| Alt Ref No | BMSS/27553 |
| Title | Llythyr oddi wrth Owen Gethin Jones (Gethin; 1816-83) at Ddewi (Havhesp?) |
| Description | Mae'n sôn ynddo am angladd Mynyddog (Richard Davies; 1833-77); y rhyfel rhwng Rwsia a Thwrci; adeiladu Pont Gethin, Dolwyddelan, a'r rheilffordd i Flaenau Ffestiniog; tafarn Llan Penmachno; tysteb Trebor Mai (Robert Williams; 1830-77), ac yntau 'ar fin yr Afon!!!'; a'r ffon a gafodd yn anrheg a dau englyn arni - un gan Trebor Mai ar llall gan Gwilym Cowlyd (William John Roberts; 1827-1904). Yna ar ddiwedd y llythyr mae'n rhoi ei englyn ei hun i'r ffon: Drwy ddiwydrwyd y ddeudroed - y cerddais Nes cwrddyd a thrithroed Ar ol dydd y Trydydd troed Daw hurtrwydd a Phedwartroed. |
| Date | 23 Gorffennaf 1877 |
| Related Material | gw. Gweithiau Gethin, t.6, t. 83. |
| Acquisition | Gadawyd y llythyr ar adnau gan Mr. Richard Jones, Penybrynisaf, Tal-y-bont, Bangor. |