Description | Rhoddodd y teitl "Teithiau dros fy Meistriaid" iddynt a cheir ynddynt gofnodion manwl o deithiau Griffith Jones i wahanol ardaloedd yng ngogledd Lloegr i archwilio llechi o'r Felineli y bu cwynion yn eu cylch. Nid yw'n enwi'r "Meistriaid" ond rhaid mai perchnogion chwarelu neu gwmni o fasnachwyr llechi oeddynt. Yng nghefn 35380 ceir cofnodion pwyllgor gweithwyr llechi'r Felinheli, 1874-1875. Bu'r pwyllgor yn ymdrechu i gael codiad yng nghyflog y gweithwyr. (Griffith Jones oedd yr ysgrifennydd). Hefyd ceir manylion am gasgliad y gweithwyr llechi ar gyfer streicwyr Chwarel y Penrhyn ym mis Hydref 1874. Gweler hefyd BMSS/622. |