Alt Ref NoBMSS/39586-39614
TitlePapurau R. Festyn Davies a'r Welsh Imperial Singers
DescriptionAmrywiaeth o bapurau yn ymwneud ag R. Festyn Davies a'r côr a alwyd yn Welsh Imperial Singers. Ceir yma dorreth o doriadau papurau newydd, rhaglenni, lluniau a hanesion am fywyd a gwaith y tenor a'r arweinydd o Drawsfynydd.
Date1895-1980
AdminHistoryYn fab i David Walter Davies a Margaret Davies, ganwyd R. Festyn Davies yn Nhanypistyll, Trawsfynydd ar y trydydd o Fedi, 1870. Wedi gadael yr ysgol aeth i weithio i'r chwarel ym Mlaenau Ffestiniog. Ymhen dim, datblygodd i fod yn unawdydd addawol a dysgwyd ef gan ei dad sut i ganu'r corned. Gyda hyn, penderfynodd R. Festyn Davies ymfudo i'r America. Gyda chysylltiadau teuluol yn Efrog Newydd, yn un ar hugain, symudodd y bachgen o Drawsfynydd i ben arall y Byd, a hynny i geisio gwneud ei ffortiwn fel unawdydd.
Yn ystod y blynyddoedd canlynol bu R. Festyn Davies yn ôl a blaen rhwng Prydain ac America, a gwnaeth enw da iddo'i hun fel unawdydd yn Llundain ac Efrog Newydd. Ym 1903 bu iddo briodi Miss Alice Free, a ganwyd iddynt ddwy o ferched, Cecilia a Margaret ym 1904 a 1905.
Ac yntau bellach wedi ysgaru, a'r merched yng ngofal ei chwaer yn Nhrawsfynydd, parhaodd R. Festyn Davies i weithio'n ddygn fel cyfarwyddwr cerdd i lu o gymdeithasau yn Seattle a San Mateo yn ystod dechrau'r 20fed ganrif.
Ym 1926 penderfynodd R. Festyn Davies ddychwelyd adref i Gymru, a hynny er mwyn sefydlu parti meibion. Byddai'r parti hwn yn cynnwys rhai o gantorion gorau'r cyfnod a byddent yn ymddangos dan yr enw 'The Welsh Imperial Singers'.
Buan iawn y profodd y parti newydd hwn lwyddiannau a daethant yn hynod boblogaidd mewn dim. Bu iddynt deithio am gyfnodau hirion yn America rhwng 1928 a 1939, a mawr oedd y galw am eu gwasanaeth.
Ym 1991 cyhoeddwyd llyfr gan Alun Trevor yn croniclo hanes y Welsh Imperial Singers.
Mae'r casgliad hwn yn cynnwys dogfennau, toriadau papur newydd, rhaglenni a lluniau o fywyd a gwaith y cerddor R. Festyn Davies ac o hynt y Welsh Imperial Singers.
    Powered by CalmView© 2008-2024