AdminHistory | Ganwyd Manon Lewis yn Lerpwl ar 30 Ebrill, 1911, yn unig blentyn i rieni o Gymry Cymraeg - ei mam yn wreiddiol o Gerrigydrudion a'i thad o Gwmystwyth yng Ngheredigion. Cafodd ei haddysg yn Lerpwl a bu'n ddisgybl yn 'Queen Mary High School' Lerpwl cyn symud i Brifysgol Bangor ym 1930 a graddiodd yn y Gymraeg yn 1934.
Cafodd ei swydd ddysgu gyntaf fel athrawes Gymraeg, Lladin a Hanes yn Ysgol Ramadeg y Bermo ym 1941. Pan symudodd yr ysgol ramadeg o'r Bermo i Harlech a dod yn Ysgol Ardudwy, symudodd Manon Lewis i'r ysgol honno ac ennill dyrchafiad yn ei thro fel Dirprwy Brifathrawes. Bu yn y swydd honno hyd ei hymddeoliad. Bu farw ym 1997.
Manon Lewis was born in Liverpool on 30 April, 1911, an only child of Welsh speaking parents - her mother originated from Cerrigydrudion and her father from Cwmystwyth, Ceredigion. She was educated in Liverpool and was a pupil at Queen Mary High School in the city before moving to the University at Bangor in 1930. She graduated in Welsh in 1934.
Her first teaching post was as a teacher of Welsh, Latin and History at Barmouth County Grammar School in 1941. When the granmmar school moved from Barmouth to Harlech and became Ysgol Ardudwy, Manon Lewis moved to the new school and was later promoted to the post of Deputy Headmistress. She remained in this post until her retirement. She died in 1997. |