Alt Ref NoBMSS/40174-40187
TitleTheatr Gwynedd / Cwmni Theatr Gwynedd
DescriptionPrif gynnwys y casgliad yw dogfennau yn ymwneud â sefydlu Theatr Gwynedd a rhaglenni'r Theatr, ynghyd â chynhyrchiadau Cwmni Theatr Gwynedd. Y mae Rhaglen Agoriadol y Theatr a chynlluniau'r adeilad yn rhan o'r casgliad, yn ogystal â'r ohebiaeth yn ymwneud a sefydlu'r Theatr, yn arbennig y drafodaeth a fu ynghylch defnydd y Brifysgol o adnoddau'r Theatr. Ceir hefyd bapurau cyllidol cronfa'r Theatr yn nodi noddwyr a chyfranwyr.

The main content of the collection are the documents relating to the establishment of Theatr Gwynedd and the Theatr programmes, as well as Cwmni Theatr Gwynedd''s productions. The Programme of the Official Opening of the Theatr and the building plans are included in the collection, as well as correspondence concerning the establishment of the Theatr, in particular the discussion concerning the University's use of the Theatr resources. Also included are financial papers referring to the Theatr fund noting sponsers and donors.
AdminHistoryAgorwyd Theatr Gwynedd yn 1975 gan Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (bellach, Prifysgol Bangor) gan gynnig rhaglenni amrywiol gydol y flwyddyn, megis drama, dawns, opera, cyngherddau a phantomeimiau. Yr oedd y Theatr yn eistedd 348 o unigolion ac yn cyflwyno theatr Gymraeg, Saesneg a rhyngwladol i'r cynulleidfaoedd. Caewyd y Theatr ym mis Tachwedd 2008 gan mai cynllun y Brifysgol oedd ei dymchwel er mwyn creu adeilad newydd ar gyfer y celfyddydau perfformio, sef Pontio.
Cwmni Theatr Gwynedd oedd cwmni cynhyrchu Theatr Gwynedd, yn cyflwyno gweithiau modern a newydd ar y cyd â'r clasuron gan fynd ar deithiau led-led Cymru. Sefydlwyd y Cwmni yn 1986 gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Gwynedd. Perfformiwyd eu holl gynyrchiadau yn Gymraeg.
Drwy gydol y blynyddoedd, bu Cwmni Theatr Gwynedd, trwy'r Cyfarwyddwyr perthnasol, yn cynnig gweithdai i ysgolion uwchradd a cholegau yn seiliedig ar y dramâu dan sylw.

Theatr Gwynedd was opened in 1975 by the then University College of North Wales, Bangor (later Bangor University) and offered all-year-round programmes of drama, dance, opera, concerts and pantomimes. The Theatr was a significant 344-seat performance space, a receiving theatre presenting Welsh, English and International theatre. The theatre closed in November 2008 as the University planned to demolish it to make way for a new performing arts venue - Pontio.
Cwmni Theatr Gwynedd was Theatr Gwynedd's producing company, presenting new and modern works alongside the classics, and touring throughout Wales. The company was established in 1986 with the support of the Arts Council of Wales and Gwynedd County Council. All their productions were performed in Welsh.
Throughout the years, Cwmni Theatr Gwynedd, via the relevant Director, offered workshops to secondary schools and colleges based on the plays in question.

    Powered by CalmView© 2008-2024