Alt Ref NoBMSS/40196
TitleSgript drama "Gadael Tir" gan Sutton Vane o Gymreigiad R. Williams Parry i'w pherfformio gan Gymdeithas Ddrama Gymraeg Coleg y Brifysgol, Bangor
DescriptionMewn llawysgrif, ger enwau'r cymeriadau, ceir enwau'r actorion yn llawn.
Date1926-1927
FormatTeipiedig
Extent1 eitem
AdminHistoryCyfieithwyd y sgript ar ôl cael caniatâd arbennig gan Sutton Vane ar gyfer perfformiad yn y Coleg ym 1927. 25 o gopiau yn unig a wnaethpwyd ac roedd y rhain i'w cael eu defnyddio gan fyfyrwyr Coleg Prifysgol Bangor yn unig. Ymysg yr actorion fe enwir Robert Wynne o Ddyffryn [Ardudwy] sef perchennog y sgript.

Y Parch. Robert Wynne, 1901-1978. Ar ôl gadael ysgol i weithio ar y fferm deuluol yn Nyffryn Ardudwy, penderfynodd ymgeisio am y weinidogaeth gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a mynd i'r ysgol baratoawl yng Nghlynnog. Yna, aeth i Goleg Bangor yn 1924 a derbyn gradd BA ym 1927. Er mwyn derbyn hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth, aeth i Goleg y Methodistiaid yn Aberystwyth ac wedyn Coleg y Bala (1930-1931). Bu'n weinidog yng ngofalaeth Cilycwm a Rhandirmwyn ac wedyn Bryneglwys cyn gadael y weinidogaeth ym 1945 a mynd am flwyddyn i Goleg Abertawe i hyfforddi i fod yn athro. Bu'n athro Addysg Grefyddol mewn ysgol Uwchradd Ffodern yng Nghaerlyr, Ysgol Uwchradd Fodern Lakefield, Llanelli ac yng Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Llanelli, cyn ymddeol yn 1966.
    Powered by CalmView© 2008-2024