Alt Ref NoBMSS/40207
TitleCasgliad o gerddi gan Y Parch. R.R. Morris wedi'u hysgrifennu yn ei law ei hun
DescriptionYn cynnwys y cerddi canlynol :
Yr Hen Wlad
Y Gwlith
Y Pedwar Llythyr llawenhydd ddaeth i'm llaw ym Mhlas y Coed, fore Sadwrn, Ionawr 16, 1926 (2 gopi)
Er coffa serchog a hiraethus am Richard Roberts gynt o Gaergors, Rhyd-ddu
Hefyd, pum cerdd wedi'u cyflwyno ar ben-blwyddi amrywiol Eleri Llion, ac un cerdd ar ben-blwydd Mofi; dwy gerdd di-deitl a chasgliad o ffeithiau am Sir Gaernarfon a'i hafonydd.
Date1905-1926
Related MaterialAm ragor o'i bapurau gweler y Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor : 9862-9866, 9870-9870A, 9998-10012, 10140-10157A, 10393-10406, 10496, 13573-13591
Extent1 ffeil
AdminHistoryGweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd Y Parch Richard Roberts Morris. Fe'i ganed ym 1852 ym mhlwyf Beddgelert, Sir Gaernarfon a chafodd ei addysg yng Nghlynnog a Holt, Sir Ddinbych cyn mynychu Coleg y Bala ym 1878.
Gwasanaethodd fel gweinidog yng nghapeli Siloh, Caernarfon (1881-1893) a Thabernacl, Blaenau Ffestiniog (1893 - 1924).
Fel bardd, bu'n cystadlu mewn nifer o Eisteddfodau ac fe ymddangosodd rhai o'i emynau yn "Cân a Moliant. Llyfr Tonau ac Emynau" (1916). Ei emyn fwyaf adnabyddus yw "Ysbryd byw y deffroadau".
Priododd â Katherine Morris ym 1882 a chawsant bedwar o blant. Bu farw ym 1935.
    Powered by CalmView© 2008-2024