Alt Ref NoBMSS/40216
TitleLlythyr oddi wrth Cathrine Roberts, U.D.A. (o "eithafodd tir y gorllewin") ar ei rhan hi a'i gwr, John Roberts at ei thad, David Thomas o Bont Newydd, Llanwnda, Sir Gaernarfon.
Description- Y mae'n sôn am enedigaeth eu mab a'i farwolaeth pan oedd brin wythnos oed. Cafodd y bychan ei enwi ar ôl ei ewythr, Hugh Roberts. Disgrifir cynhebrwng y bychan.
- Sonia'r llythyr am drafferth a achoswyd i'r teulu pan geisiodd rhywun brynu'r 40 acer o dir lle'r oeddynt yn byw a ffermio ("y mae ein t? an llafur arno"). Cawsant gymorth gan gymydog i brynu'r tir eu hunain.
- Datblygiad y fferm: prynu "hwch focha"; gwerthu ei moch; prynu "un fuwch a iau o ychain", etc.; aredig am gyflog; tyfu cnydau; gwerthu menyn. Nid ydynt yn gorfod talu treth, dim ond llog o £20. Cathrine yn gwneud gwaith corfforol ar y fferm - yn aredig. Dywed ei bod yn credu y byddai'n well ar lawer o'i hen gymdogion pe baent yno.
- Cyfarfod pregethu gan y Methodistiaid Calfinaidd wedi bod yn yr ardal.
- Rhestrir prisiau gwahanol gnydau/bwydydd.
- Gofyn Cathrine i'w thad anfon rhai pethau iddynt, ac anfon llythyr iddi yn fuan gyda hanes perthnasau a chymdogion. Cyfeiria at gydnabod iddynt oedd yn yr ardal, ac a oedd yn aros yn "Dogeville", a oedd oddeutu 80 milltir oddi yno. [Gall mai Dodgeville, Wisconsin, ydyw - a fyddai wedi bod yn "eithafoedd tir y gorllewin" yn y cyfnod, y mae'n debyg.]

Nodiadau ar gefn y llythyr (yn yr un llaw - llaw wahanol i'r llythyr ei hun:
A. Nodi fod John Roberts a'i wraig yn dymuno cael hanes perthnasau a chydnabod trwy lythyr.
B. Hanes Rebeca.
Date15 Mehefin 1847
Extent1 llythyr
    Powered by CalmView© 2008-2024