Description | Wedi'i ludo ar un o'r tudalennau mae ymddiheuriad i'r bardd Cynan gan y golygydd a'r gouchwylwyr am yr "enllib amlwg a budr arno". Elwyn Jôs oedd y Golygydd a'r Cyhoeddwyr oedd Penri Jôs a Robat Gruffudd. Ardystwyd yr ymddiheuriad gan Brinley Richards a Robyn Lewis. Mae'r enllib yn ymddangos ar dudalen saith gyda ffotograff o ferch bron-noeth gyda'r geiriau "sensor by Cynan yma" ar draws ei bronnau. |