Description | Llyfr pur amrywiol ei gynnwys - pethau'r byd hwn a phethau'r byd arall (tt.1-65). Ymestyn o 1813 (t.64) i 1825 (t.62). Llawer o script John Roberts yr hynaf ynddo, a thipyn go lew o ôl llaw eraill. Ar t.1, gwelir "Cornelius Roberts at 3 tuns inn Wolverampton", cyfeiriad at y mab hynnaf yn porthmonna, efallai. Enwir llawer o bobl ddiddorol - 'hen wraig y Sumar (15-16). Thomas Nowls (Knollys?), 8,9; Thomas Clos (10,12), y diacon a'r pregethwr Rolant Abram, oedd braidd yn ymharous yn talu ei ddyledion. Gellir casglu bod gan John Roberts fusnes pur helaeth. Sonir am gyfri'r efail (9,10), am droleidiau o galch o'r Faenol (14). Mor ddiddorol a dim yw'r entries (24) am hen gapel y Graig a godwyd yn 1814 - llogau, rhoddion y Cyfarfod Misol, cost y seti, y toi a'r awydro, a'r £120 hawl a dalwyd i Elin Griffith, etc. Llyfr llawn manylion am brisoedd llawer math o nwydd yn nhymor anodd diwedd y rhyfel â Boni a'r drudaniaeth a ddilynodd. |