Alt Ref NoCOET/48
TitleScrap Book bregus, ond llawn o ddanteithion.
DescriptionYn y tudalennau cyntaf clywir llawer am daith W.J.P. i'r America a'i ddarlithau ar ôl dod yn ôl oddiyno, ac am gynnadleddau Undeb y Chwarelwyr yn ei ddyddiau bore. Llawn cyn bwysiced a'r rhain yw y man bethau a rwymwyd i mewn yn eu plith; e.e., y papur chwyldroadol a draddododd W.J.P. o flaen Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion an Ninbych (23 Awst, 1882), ac a ail-argraffwyd gan y Gymdeithas honno yn 1917-1918, papur yn dal allan fanteision y Trefedigaethau, ac yn annog y chwarelwyr i ymfudo iddynt; atodlen i'r papur eglwysig Gwalia (21 Hyd., 1885) ar Ddadsefylliad gan ficer Llanfairfechan; pamffledi bychain ar y dylanwadau oedd tu ôl i etholiad cyntaf Cyngor Coleg Gogledd Cymru (1884); erthygl eto ar Ymfudiaeth gan W.J.P.; ac ychydig o flaen hwnnw bapur ar y modd goreu i feistri a gweithwyr gyduno i ail-godi'r fasnach lechi ar ei thraed (wedi ei bastio tu ôl i hwn fe welir "Rheolau i'r Rhai sydd yn dal Eisteddleoedd ynghapel Bethesda"). Ymhellach ymlaen (t.12) daw tri o bethau cywrain ar ôl ei gilydd:- (a) Etholiad Bwrdd Iechyd Bethesda, 1874. (Arglwydd Penrhyn yn gyntaf, W.J.P. yn ail). (b) Galargan er cof am y Parch Ll. Samuel gan Hugh Jones. (c) "Gair yn y Glust" gan Hugh Derfel (1858). Rhwng tt.13 a 14 ceur cyfle i ddarllen llen foreuaf Undeb y Chwarelwyr; ar tt. 15, 16, darllennir gohebu adeiladol ar bwnc y llechau yn 1884. Tua'r diwedd dygir ni yn ôl at helynt Dinorwig yn 1874 (tt.18-21) a rhyw ymgeintach bapur a fu rhwng T.H. Owen a W.J.P. yn 1885. Gwell gadael yr ysgarmesoedd marw yma a throi dalennau y Darlunydd am Ebrill a Gorff., 1876
Date1858-1885
    Powered by CalmView© 2008-2024