Alt Ref NoCOET
TitleCoetmor Papers
DescriptionThis collection of 90 items is named after Neuadd Coetmor in Bethesda, Gwynedd, the home of W.J. Parry (1842-1927).

The papers include letters addressed to W. J. Parry from Thomas Edward Ellis, M.P., 1886-1897, Rev. E. Herber Evans, Michael D. Jones of Bala, 1885-1892, Lewis William Lewis (Llew Llwyfo), 1863-1889, Pennant Lloyd, Lord Penrhyn's agent at the Penrhyn Quarry, 1892, Rev. William Nicholson, 1872-1885, North Wales correspondents (founding of the North Wales Choral Union), 1873-1874, Lord Penrhyn, 1870-1880, Col. Sackville West, 1878-1885, Rev. D. Rees, Capel Mawr, Anglesey, 1881-1889, Samuel Roberts of Llanbryn-mair, 1875-1885, Dr John Thomas of Liverpool, 1869-1889 and Rowland Williams (Hwfa Mn), 1867-1890.

There is a group of papers relating to W. J. Parry's services as a friend and benefactor of the Library of U.C.N.W., Bangor, 1883-1926, including lists of books and manuscripts, presented by him.

Also, a holograph manuscripts of poems by Hwfa Mon, including Awdl y Nos, Y Morwr, Awdl Farwnad i Alaw Goch, Elias y Thesbiad, Pen Carmel, Noddfa, Y Flwyddyn, etc., 1866-1903

Copy correspondence and papers concerning industrial disputes and unrest at the Penrhyn Quarries, 1874-1897.

Scrap books containing newspaper cuttings relating to various topics of local and national interest, including the slate trade, the Penrhyn and Dinorwic Quarries disputes, 1878-1903, the North Wales Quarrymen's Union, the General Elections of 1868 and 1880, W. J. Parry's visit to America in 1888, Welsh home rule, etc. One of these scrap-books (COET/48) contains a copy of the revolutionary paper read by W. J. Parry before a meeting of the Honourable Society of the Cymmrodorion at Denbigh, 23 August 1882, advocating the establishment of regional councils for Wales, Scotland, etc.

Day books and other accounts of the Pantdreiniog Quarry, 1896-1903.

Letter books, 1874-1906; accounts of visits to North and South America in 1879 and 1893-1894; holograph manuscript of Hanes fy mywyd a'm gwaith (published in Y Cronicl, 1908-1910 and Cymru, 1912-1914; baptismal register of Bethesda Congregational Chapel, 1818-1839.
Date1818-1926
Related MaterialAlso held at the Archives Department of the University of Wales Bangor - Bangor Manuscripts 978 (x,xv), 1124 (195,196), 1125 (129), 1130 (15-16, 20-21), 4181, 5019 (44, 50), 5470 (112), 5471 (3), 5474 (36-37), 5478 (56-58, 85, 118-9), 5480 (32), 5482 (112), 5757 (14), 13296-13320, 24267, 26667, 28763-64, 35870.
Extent2 linear metres
AdminHistoryNeuadd Coetmor, ger Bethesda yw'r Coetmor y cyfeirir ato yn y penawd, cartref W.J. Parry, un o Gymry mwyaf diddorol ac amryddawn ei ddydd (1842-1927).

Ynddo ef, cafodd Coleg y Gogledd yn o'i garedigion ffyddlonaf. Ef, yn anad nef, a lwyddodd i harneisio wrth y sefydliad ieuanc frwdfrydedd ffrwythlon chwarelwyr Bethesda; ef a anfonodd allan y cylchlythyr cyntaf i ofyn am gardod llyfrau i'r Llyfrgell, ac yn y blynyddoedd cyntaf ar ei farn ef y dibynnid am len Gymraeg i'r Coleg. Gwelir ei enw ar gannoedd o lyfrau a degau o gyfrolau, amryw a gyflwynodd yn rhodd i'r Llyfrgell, heb son am y llawysgrifau hyn; a chofiodd yn gynnes am y Llyfrgell yn ei ewyllys olaf. Purion ychwanegu mai ef, am ysbaid o ddeugain mlynedd a mwy, oedd prif archwilydd cyfrifon y Coleg.

Ymdaflodd W.J. Parry i firi bywyd cyhoeddus yn bur fore. Daeth yn fuan yn ffigwr pwysig yn llywodraeth leol Bethesda, ac yn bur flaenllaw gyda'r mydiad i gael y ffordd haearn i redeg i fyny o Fangor. Ar un adeg talai sylw mawr i'r syniad o gael llywodraeth gartrefol i Gymru, a darllennodd bapur mor newydd a beiddgar ar ad-drefniad Cynghorau'r dywysogaeth yn 1882 fel na chyhoeddwyd ef gan Gymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion cyn bod pymtheg mlynedd ar hugain wedi mynd heibio. yn naturiol ddigon, yr oedd yn un o aelodau cyntaf Cyngor Sir Arfon, a daliodd yn aelod ohono hyd ei farw. Serch mai Rhyddfrydwr o'r hen ysgol oedd ef mewn gwirionedd, yr oedd iddo gydymdeimlad pur ddwfn a delfrydau dynion fel Mabon a Broadhurst. Rhoddir lle amlwg i len y Trade Unions yn ei lyfrau lloffion; ef oedd un o brif sefydlwyr Undeb y Chwarelwyr yng Nghogledd Cymru. Gyda threigl y dyddiau, adwaith y Rhyfel Mawr a chodiad y Blaid Lafur newydd, tyfodd cenhedlaeth ym Methesda nad adnabu mo Joshua, ac aeth haul W.J. P. i lawr. Hyd y diwedd yr oedd ganddo feddwl bachog ar hen bynciau'r tir a diwydiant - cafodd, ychydig fisoedd cyn ei farw, lythyr personol oddi wrth Lloyd George yn diolch am gyfraniad o Goetmor tuag at ddatglymu problemau'r ffermwr.

Nid yw'n debyg y gwyddai neb fwy am y fasnach lechi na W.J. Parry. Yr oedd ganddo fanteision lu i fod yn awdurdod safonol arni; ei alwedigaeth fel cyfrifydd; ei eni a'i fagu ym Methesda; ei drwytho yn hanes a thraddodiadau'r ardal; ei deithiau i weld a sylwi ar y fasnach yn gweithio dramor. Ysgrifennodd lyfr ar 'Chwareli a Chwarelwyr' a phwy a gyfrif yr erthyglau a'r llythyrau - rhai den ei enw a llawer heb fod - a anfonodd i'r newyddiaduron ynghylch prisoedd, yr allforion a'r gystadleuaeth dramor?

Bu iddo gyswllt parhaus ag anghydwelediadau anffodus Cae-braich-y-cafn. Serch ei dras a'i allu a'i wybodaetheang, nid chwarelwr ydoedd, a gorfod iddo ddioddef y farn a'r penyd a syrth i ran y "tertium quid". O'r tu allan i'r chwarel y siaradai ac y saerniai ef ei droiog gynlluniau. Oherwydd ei safle annibynnol, gallai ddweud a gwneud pethau a fyddai'n anhawdd, os nad amhosib, i chwarelwr cyffredin' a medrai alw holl adnoddau Llafur i'r gad o blaid y chwarelwyr. Yn 1874 y gwnaeth ef y gwaith gorau ar eu rhan. O hynny ymlaen heddwch salach na heddwch gwyr mawr oedd rhyngddo ag Arglwydd Penrhyn a'i oruchwylwyr. Weithiau, er ei gyfrwysedd, a'i yn rhy bell i diriogaeth athrod, a gorfod iddo dalu symiau mawrion o iawn am hynny fwy nag unwaith. Mae COET/45-51 yn rhoi golwg gynhwysfawr ar ochr y dynion i streic 1900-1903 y Penrhyn.

O ran credo ac enwad, Annibynnwr ydoedd, ac Annibynnwr pur fawr. Nid bob amser y gallai anghofio hynny yn ymdrafodaeth y chwareli - beth am adladd helynt Dinorwig yn 1885? Ni ellid ei gadw o gylchoedd cyfrin yr Undeb a'r prif gynghorau; yr oedd yn ddwfn iawn (ar ochr Newydd) yn helynt enbydus y "Dday Gyfansoddiad", a dyfnach fyth yn y cytundeb a wnaed i sefydlu Coleg Bala-Bangor; nid oes eisiau dweud pa mor bwysig ydoedd fel diacon yn eglwys Bethesda, fel aelod o'r Cwrdd Chwarter, ac fel gwestywr parod i bregethwyr yr uchel-wyliau. Bu'n gyfaill haelfrydig i achosion bychain Glasinfryn, Cwmyglo a'r Chwarel Goch. Onid gydag ef, ym Maesygroes y bu S.R. yn arod yn union cyn i'r Cymro enwog fynd allan i Tennesee? Onid ef, ar ol hir gyfeillgarwch a Thanymarian a ysgrifennodd gofiant iddo? Gwelir ei enw hefyd fel awdur "Telyn Sankey" a "Hymnau'r Ysgol Sul". Ei hoff waith ar ddiwedd ei yrfa oedd cyfieithu i'r Gymraeg bregethau rhai o brif bregethwyr Lloegr a'r Amerig.

Yr oedd ef a Hwfa Môn yn hen gyfeillion a hyn sy'n cyfrif am lawysgrifau Hwfa a welir yn y casgliad hwn ac am Gofiant Hwfa a olygwyd gan W.J. Parry (1907). Oherwydd yr anghariad a gynhyrchodd y Dadeni rhwng beirniaid yr oes hon a beirdd yr oes o'r blaen; oherwydd dyfarnu awen Hwfa yn eisteddfodol a dieneiniad, oherwydd ymddangos o lawer o'r llawysgrifau hyn mewn argraff - prin y byddai'n briodol pwysleisio rhyw lawer ar eu pwysigrwydd. Beth bynnag am hynny, dyma hwy i ddangos y bardd Cymreig yn oes Fictoria yn eistedd i lawr, gwau ei gynhaneddion a'i hysgrifennu mewn llaw gref lan.



William John Parry of Neuadd Coetmor, Bethesda, labour leader and author, was born on the 28 September 1842 in Bethesda, Caernarfonshire. Active in politics throughout his life, he took a leading part in the famous 1868 election. He was a supporter of Home Rule for Wales and at the National Eisteddfod of 1882, he read a paper to the Cymmrodorion Society on Local, Provincial, and Imperial Government. This paper was not published in the Society's Transactions until 1917-1918, because it was regarded at the time as being too revolutionary. In it he proposed the reorganisation of local government, the reform of the House of Lords and the establishment of provincial councils for Wales, Scotland etc.

W. J. Parry was a member of the first Caernarfonshire County Council in 1889 and its chairman in 1892-1893. He took a prominent part in the creation of the North Wales Quarryman's Union in 1874 and became its first secretary. Later he became its president for some years. In 1879 he visited slate quarries in the United States at the Union's request.

Several books were published by him, dealing with the quarryman's affairs; Caebraichycafn : yr Ymdrafodaeth, 1875; Chwareli a Chwarelwyr, 1896; The Penrhyn Lock-out, 1900-1901; Statement and Appeal, 1901; and Cry of the People, 1906. He also edited with W. J. Williams the Welsh translation of the evidence on slate quarries and quarrymen submitted to the Royal Commission on Labour (1893).

He was active in writing for Yr Herald Cymraeg, Y Genedl Gymreig, the Caernarvon and Denbigh Herald and the North Wales Observer on labour problems, leaseholds, Crown lands, Home Rule, county councils, arbitration, etc. He was also one of the founders of the newspaper called Y Werin in 1885, and was its first editor for three years. Books of a different nature were also written by him, such as Cofiant Tanymarian, 1886; Cyfrol Jiwbili Capel Bethesda, 1900, Telyn Sankey, 1901; Cofiant Hwfa Mn, 1907; and The English Hymnal, 1907, and numerous pamphlets.

A prominent member of the University College of North Wales, it was he who sent out the first letter requesting that books be donated. He himself also presented numerous books and papers to the University library and to the National Library of Wales. He was an Independent, and a deacon at Bethesda Chapel. He was involved in the infamous battle of the two constitutions, and in the agreement to establish the Bala-Bangor College. He died on 1 September 1927 at Bethesda.

W.J. Parry was a friend of Hwfa Môn, hence the presence of manuscripts relating to the Fictorian poet amongs these papers.
AcquisitionCOET/55-90 were received in October 1932, according to Mr W. J. Parry's wishes in his will
    Powered by CalmView© 2008-2024