AdminHistory | Cylchgrawn Cymraeg o ddeunydd amrywiol ydoedd, ac i fod yn ddolen gyswllt rhwng sefydliadau Cymreig a'i gilydd, ac i gryfhau y cysylltiad rhwng Cymru â'r bechgyn a wasanaethai yn y lluoedd arfog. Fe'i cyhoeddid yn Cairo, prifddinas yr Aifft, o 1943 hyd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Bu hyn yn symbyliad i sefydlu Undeb y Cymry ar Wasgar yn ddiweddarach, ym 1948. Y Seren hefyd fu'n sbardun i ŵr o'r enw Richard Hughes sicrhau tabled gyda geiriau Gweddi'r Arglwydd yn Gymraeg ochr yn ochr ag ieithoedd eraill yn eglwys Pater Noster ar Fynydd yr Olewydd |