AdminHistory | Roedd Albert Evans Jones (1895-1970), Cynan, yn fardd gyda chysylltiadau cryf â'r Eisteddfod Genedlaethol. Fel cystadleuydd, enillodd y goron deirgwaith a'r gadair unwaith, ac fel Archdderwydd (ddwywaith) daeth yn adnabyddus am foderneiddio'r Eisteddfod Genedlaethol gan greu a datblygu'r prif seremonïau. Adwaenir ef hefyd fel brenhinwr a chwaraeodd ran flaenllaw yn yr arwisgiad yn 1969 ac fe adlewyrchir hyn yn y casgliad yma. Priododd Cynan ddwywaith - yn 1921 ag Ellen J. Jones o Bwllheli (cawsant fab a merch) ac yn 1963 â Menna Meirion Jones o Y Fali, Ynys Môn. Roedd ei fab, Emyr ap Cynan, yn feddyg yng Nghaergybi a briododd â Mona Mostyn. Roedd eu mab hwythau, Robin ap Cynan (1950-2015), yn gyfreithiwr blaenllaw. |