Alt Ref NoGAI/1/21
TitleCasgliad o Gywyddau Sion Brwynog gyda nodiadau beirniadol a gramadeg [Drafft]
DescriptionDyma un o destunau mwyaf pwysig Eisteddfod Genedlaethol Caergybi. Mynnodd Gaianydd ymgeisio, serch ei gorff analluog a'i iechyd bregus. Aeth i drafferth a chost fawr. Teithiodd i Lundain i'r Museum a thalodd am gopiau photostat o nifer o gywyddau Sion Brwynog sydd ynghadw yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Ni ellir dywedyd bod y copiau o'r cywyddau yn rhyw gywir iawn, rhai yn anhawdd i'w darllen ar y gorau, a'i olygon yntau yn graddol waethygu yn y blynyddau olaf.

B t.t.1-21 Rhagarweiniad
C t.t. 1-4 Nodiadau ar Sion Brwynog a pheth beirniadu ar T. Gwynn Jones
D t.t. 5-7 Rhestr o'r cywyddau
E F Dwy restr o gywyddau
G Copiau o'r cywyddau, gyda nodiadau
H Copiau photostat o'r cywyddau dilynol
i Cywydd Moliant i Syr Sion Salbri (Cwrtmawr Ms II t.t. 168-171)
ii Cywyddau ymryson gyda Gr. Hiraethog (Llanstephen Ms 49 t.t.33-38)
iii Cywydd Marwnad Tomas Llwyd ap William ap Dafydd o Lys Dulas ym Môn (Llanstephan Ms 125 t.t. 496-498)
iv Cywydd Moliant Mr Rys Tomas (Llanstephan Ms 125 t.t. 621-623)
v Cywydd Moliant i Sion Wynn hyna o Benllech (Llanstephan Ms168 t.t. 97-102)
vi Englynion a wnaethpwyd ar ddeg gorchymyn Duw (Mostyn Ms 131 t.t. 149-151)
vii Cywydd "Ysgwier croewber cariadog freichfras" (Mostyn Ms 131 t.t. 149-151)
viii Cywydd "Y llew enwog a lluniaidd" Moliant Lewis Gwynn (Peniarth Ms t.t. 176-178)
Date1927
    Powered by CalmView© 2008-2024