Description | Ceir yma enwau llu o bregethwyr. Diddorol yw sylwi ar wahaniaeth taliadau i bregethwyr "ganol yr wythnos". Ymhlith y rhain am 1854 fe welir enwau Owen Jones, Y Gelli, Isaac Jones, Nantglyn, William Roberts, Clynnog, John Jones, Blaenannerch. Darlun go fyw o fywyd cymdeithas fechan o fethodistiaid cyn i'r fugeiliaeth ddod yn ffasiwn y dyddiau.
Yn llaw Owen Davies, diacon a siopwr, y mae'r rhan fwyaf o'r llyfr. |