Alt Ref NoHUGH/1/9-35
TitlePapurau amrywiol yn ymwneud â'r Parch. William Evans a'r Wesle Bach
DescriptionYr oedd William Evans yn bur hoff o ysgrifennu ar gefn circulars neu bosters; ar dro y mae y llên honno lawn mor ddiddorl a'i opiniynau pendant ef ei hun. Ar gefn HUGH/1/29 fe geir gwybodaeth am ddau fedydd yn Llandecwyn nad hawdd iawn ei gael yn unman arall erbyn hyn.
Date1830au
AdminHistoryRhydd Dr Hugh Jones le go fawr i William Evans yn ei 'Hanes' ond rhyw ddof a rhyddiaethol yw'r ymdriniaeth arno. rhaid yw fod William Evans yn gryfach carictor, yn llawer dycnach ymladdwr dros ei bethau na'r argraff a adewir arnom gan y Dr. ar ei ysgwyddau ef y disgynoff i wrthsefyll crwsâd y Wesle Bach yng nghylchdaith Caernarfon, a bu ei gleddyf a'i darian yn effeithiol ryfeddol.
    Powered by CalmView© 2008-2025