Description | Nid oes modd ei ddeall yn iawn heb ddarllen 'Hanes Wesleaeth', iv, 1661-1664. Dengys y cyswllt agos rhwng y Cymry Wesleaidd a'r Saeson Wesleaidd o 1822 i 1825 (td. 1-15); cofnodir cyfraniadau y Saeson a'r Cymry, ar yr un todalennau, ond y Welsh Classes ar eu pennau eu hunain. Yr achos yn Benn's Carden oedd hwn. At bwrpas astudiaeth fanwl ar Wesleyaeth Gymreig yn Lerpwl y mae'r hen ledger yn gloddfa o wybodaeth : enwau'r aelodau, enwau'r gweinidogion, enwau'r stewards ar' leaders, a sicrwydd go lew am ffyddlondeb cymharol yr aelodau a'u safle cymdeithasol. Inset 35 a 85 fe welir amryw o blaniau cylchdaith Lerpwl mewn blynyddau diweddarach. |