Description | Yn y ddadl, fe welir yn bur amlwg graffter a syberwyd y Dr Hugh Jones; serch hynny, llwyddodd yr ochr arall i fyned heibio i'w darian yntau fwy nag unwaith fel y prawf y tri draft (31-33) a gwyn i'w hanfon i law 'President' y 'Conference'. A anfonwyd y gwyn, nis gwn. Gwelir amryw lythyrau yn llaw gweinidog Wesleaidd o'r enw T.G. Pugh (15-21), o Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1879. Ond nid oes sôn amdano yn index yr 'Hanes' na dim cyfeiriad ato o dan hanes cylchdaith Caerfyrddin. |
AdminHistory | Ar y cyfan llwyddodd y Wesleaid Cymreig i gadw'r pethau annymunol ond tra diddorol yma, allan o golofnau'r newyddiaduron - yn well na'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr, os nad y Methodistiaid eraill yn ogystal. |