Alt Ref NoIW/1439b
TitleLlungopi o lythyr oddi wrth Ifor Williams, Pendinas, Tregarth at François Jaffrennou, 'Taldir'
DescriptionMae'n gofyn am faddeuant am beidio ysgrifennu ato mewn Brezonek. Diolch iddo am anfon "Ar Vro" iddo ac mae'n anfon tâl amdano. Crybwyll fod yna frwydr rhwng yr hen feirdd a'r beirdd newydd yng Nghymru.
Date12 Hydref 1910
Extent1 llythyr
AdminHistoryYn ôl Ceridwen Lloyd-Morgan, "Siaradwr Llydaweg o’r crud oedd François Jaffrennou, ac roedd yn hyddysg mewn barddoniaeth yn yr iaith yn ogystal â diwylliant llafar y werin. Roedd yn fardd, yn gyhoeddwr ac yn genedlaetholwr blaenllaw. Meistrolodd y Gymraeg yn llanc ifanc wrth draed yr ysgolhaig disglair François Vallée, ‘Abherve’ ac astudio llenyddiaeth gynnar y Gymraeg gydag ef hefyd. Yn ugain oed, cafodd Jaffrennou ei urddo’n aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn 1899, gan gymryd yr enw barddol Taldir ap Hernin."
AcquisitionTynnwyd y llythyr hwn, sydd i'w ganfod ymysg Llawygrifau François Jaffrennou (sydd yng ngofal Archifdy Adrannol, Départment Finistère Penn-ar-Bed, Ffrainc) i sylw Archifdy Prifysgol Bangor gan Dr Ceridwen Lloyd-Morgan. Fe lawrlwythwyd y copi o wefan Départment Finistère Penn-ar-Bed ar yr 2/12/2025 https://recherche.archives.finistere.fr/document/FRAD029_00000044J.
    Powered by CalmView© 2008-2026