Alt Ref NoIW/1481
TitleLlythyr oddi wrth John Ellis [Caerwyn Williams], 17 Upper Leeson Street, Dublin at Ifor Williams
DescriptionMae'n diolch iddo am arwyddo'r dystysgrif ac am anfon y dyfyniadau o'r llyfr. Mae'n dychwelyd ei erthygl ar "Y Llyfr Gwyn o Hergest a LL. 3" ac yn amgau erthygl ar "Efengyl Nicodemus". Gwell ganddo weld y ddwy erthygl amgaeëdig yn cael eu cyhoeddi gyntaf.
Mae'n gallu gwerthfawrogi ei broblem fel golygydd pan fo cymaint o ddeunydd yn cael ei yrru ato. Mae'n gobeithio mai rhywbeth ynglyn â'r Wyddeleg a'r Gymraeg fydd ganddo y tro nesaf. Mae'n mynychu darlithoedd Bergin i gyd. Mae Gwilym Jones o Gwm Penmachno yn gweithio'n y Civil Service yno ac hefyd yn dysgu Gwyddeleg fodern.
A yw'n gwybod fod yr Irish Academy yn cyhoeddi Geiriadur mewn rhannau ?
Fe fyddai'n bleser ganddo anfon ymenyn iddo.
Drwg ganddo glywed mai aflwyddiannus fu W.R. Jones yn ei ymgais am yr ysgol-feistraeth.
Bydd yn gweld yr Athro J. Lloyd Jones bob wythnos.
Date7/2/1940
    Powered by CalmView© 2008-2024