Description | Wrth astudio barddoniaeth T. Gwynn Jones yn 1939 ail-ddarllenodd lyfr Thomas Taig. Sylweddolodd nad yw John Morris-Jones yn trin problem amseriad mewn cynghanedd yn ei Gerdd Dafod, dim ond aceniad. Ei gasgliad yw mai amser dyblyg yw amseriad canu caeth. Dangosodd ei waith yn 1940 i Saunders Lewis ac awgrymodd y dylasai ei anfon ato [Ifor Williams], a'i gynnig i'r BBGC. Os yw'r astudiaeth yn werth ei gyhoeddi carai gael y cwbl yn ôl er mwyn ysgrifennu rhagymadrodd. |