Alt Ref NoIW/241
TitleLlythyr oddi wrth J. Glyn Davies, Rossa Fawr, Denbigh at Ifor Williams
DescriptionRhoddwyd fenthyg llyfr i Harri Huws sef gwaith Daniel Jones a math o commonplace book. Nid yw'n gwybod lle mae'r llyfr erbyn heddiw.
Nid oedd wedi bwriadu i Wheldon ddangos y llythyr i neb ond ef a Lloyd. Gyrrodd lythyr yn dymuno iddo ddileu y llythyrau o'r cofnodion swyddogol. Un peth ar fai yn y llythyr oedd iddo roi un gair yn ormod am J.H. Bu trwy lyfr John Morris-Jones ar gerdd dafod. Mae ei benodau ar aesthetics yn chwerthinllyd.
Mae ganddo job o'i flaen o osod tua 300 tudalen o stwff da wedi ei ddifetha drwy ddiffyg cynllun da.
Ni wnaiff Tre'r Ceiri mo'r tro yn lle Caer Dathal.
A fedrwch weld o amgylch Ceig Caer Arianrhod ar drai mawr ?
Roedd yn Rhydychen ym mis Awst - W.J. Gruffydd yn traethu yno.
Date24/12/1925
    Powered by CalmView© 2008-2024