Alt Ref NoIW/242
TitleLlythyr oddi wrth J. Glyn Davies, Uppsala at Ifor Williams
DescriptionRoedd ar ganol symud dodrefn o Rossa i Garn Llywelyn pan ddaeth ei lythyr.
Mae'r dosbarth Cymraeg yn fwy fyth eleni. Mae ganddo sgwrs arall ar hanes politicaidd yr Eglwys Ladin yn y 19eg ganrif.
Bydd yn Uppsala tan ganol Tachwedd. Mae'n gobeithio cael crap go lew ar yr iaith y flwyddyn nesaf.
Nid yw'n hidio rhyw fawr iawn am Gymru. Gwell ganddo fywyd cymdeithasol y Daniaid. Mae Lleyn wedi colli pob swyn iddo.
Gwelodd ateb Garmon Jones yn y Welsh Outlook i ymosodiad W.J. Gruffudd. Celwydd a ddywed Gruffudd.

Yn amgaeëdig :
Nodyn yn dweud y dylai fod dôr agored yn ngholegau Cymru i ddynion galluog. Mae am sgwennu at Tom Jones i ddadlau y pwnc.
Date14/10/1928
    Powered by CalmView© 2008-2024