Alt Ref NoIW/247
TitleLlythyr oddi wrth John Davies, Garthgarmon, 95 Heath Park Avenue, Caerdydd at Ifor Williams
DescriptionMae'n datgan ei edmygedd o'i wroldeb yn gwrthod cymryd ei wthio i weithredu'n groes i'w gydwybod. Dyna yw ystyr yr ymosodiad a wnaed arno yn y Ddraig Goch.
Bu'n drysorydd cyffredinol i'r Blaid ond ymddiswyddodd pan ymunodd y Llywydd. Eisoes mae nifer o'r aelodau amlwg yn Babyddion. Ni all Saunders Lewis gadw ei grefydd allan o'r "class room". Trychineb i fywyd a hanes Cymru oedd i Saunders Lewis erioed gael cyfle i ddadlwytho ei Babyddiaeth ar y Cymry.
Date12/7/1937
    Powered by CalmView© 2008-2024