Description | Mae wedi gorfod rhoi ei amser i gyd bron i astudio llenyddiaeth Seisnig a mynd yn athro Saesneg mewn ysgol ganolradd yn Ffrainc, ond mae ei holl fryd ar astudio Celteg. Er ei briodas, Cymraeg yw iaith y cartref. Mae wedi dechrau dau draethawd o dan gyfarwyddiad Mr Vendryes. Un ar bwnc Hen Wyddeleg a'r llall ar Gymraeg Canol. A oes modd iddo ddod i'r Brifysgol i weithio yn ystod y gwyliau i'r ystafell ymchwil Gelteg? |