Description | Mae'n diolch am y llythyr er gwaethaf y blinderau, yr helyntoedd a'r pethau a gofnododd Ifor Williams ynddo. Ers dyddiau mae wedi ymwadu â'r study er mwyn arbed tân. Drwg ganddo oedd clywed am John Ellis Caerwyn a thrist oedd newyddion D. James Jones a helynt Moses Williams ac Elsbeth Evans. Llithrodd Michael Tierney un bore a thorrodd ei glun. Anodd ganddo draethu barn ar y triwyr a nodir gan Ifor Williams. Teimla for Melville Richards yn rhagori ar Foster yn ei wybodaeth o'r Wyddeleg. Gan Foster mae'r meddwl praffaf ond gan Richards mae'r egni a'r ynni mwyaf. |