Alt Ref No | IW/995 |
Title | Llythyrau oddi wrth Eluned [Morgan], 51 Hamilton Street, Caerdydd at Ifor Williams |
Description | Mae meddwl fod ei chyfeillgarwch yn werthfawr iddo yn ei synnu. Oni ddylai Ifor Williams fod yn Nhreorci ar 1 o Hydref yn gweld dadorchuddio cof-golofn Ben Bowen? Llawenydd clywed fod Ifor Williams wedi cael hwyl ymysg y Llydawiaid. Daeth William George am ddiwrnod i Langollen. Bydd yn Jiwbili'r Wladfa ymhen 6 blynedd. A gaiff ddod i ddarlithio i Dregarth ? Bydd angen i gynrychiolwyr gorau'r Genedl fynd i'r Wladfa, i'r Jiwbili. Mae mor falch o dderbyn llun o Ifor Williams, ei arwr. Gresyn na chai fynd i'r Mumbles i ysgrifennu Gwymon y Môr. Trist cwrdd bechgyn Eryri yn Bedlinog - wedi gorfod cefnu are eu cartrefi i gadw newyn rhag y trothwy. Mae'n dod i Dregarth i ddarlithio. Dweud wrth Ifor Williams am beidio bod yn specialist fel Morris Jones. |
Date | September 1908-October 1908 |
Extent | 7 llythyr - tudalen ar goll yn llythyr Hydref 19 |