Description | Llythyr wedi ei anfon o'r Park Hotel, [Caerdydd], gan John [Morris-Jones] at ei wraig, Mary, yn eu cartref newydd- Ty Coch, Llanfair P.G. Mae John [Morris-Jones] yno ar gyfer cyfarfod pwysig y [seremoni graddio], ble bu [Edward] Anwyl ac yntau ymysg y cyntaf yno. Ymysg y rhai a fu'n bresennol roedd y Tywysog [Siôr, 1865-1936]; [Arglwydd] Tredegar; [Yr Athro John] Rhys; Henry Jones; ac [David] Lloyd-George. Dywedai John [Morris-Jones] fod Lloyd-George wedi mynd i edrych yn wael ac wedi heneiddio. |