Description | Deg pennill serch gyda darlun bychan o gwch ar y môr. Dywed John [Morris-Jones] na fu'n ymgeisio i ysgrifennu penillion tebyg ers ei amser yn yr ysgol. Trafodai hanesion lleol, gan baratoi am fynd yn ei ôl i'r 'college' yn [Rhydychen] ymhen ychydig ddyddiau. Bu'n darllen llyfrau Ffrengig am ieithoedd Affrica ar gyfer ei bapur i'r Gymdeithas Athronyddol. |