Alt Ref NoJMJ/37
TitleLlythyr oddi wrth John [Morris-Jones] at Mary Hughes.
DescriptionCyfeiriai John [Morris-Jones] ei lythyr at "Mia Carissima", [gan ddefnyddio'r term Eidaleg am "Fy annwylyd"], gan ysgrifennu at Mary Hughes tra'r oedd hi yn Aberystwyth. Mae'n dyfynnu Dewi Wyn, gan bitïo na chawsai'r llythyr y disgwyliai gan Mary hyd y bore hwnnw. Ai ymlaen i gywydda a barddoni am yr hyn sy'n gwahanu'r ddau ohonynt -y pellter rhwng [Aberystwyth a Llanfair PG]; coed Plas Newydd a bryniau Sir Gaernarfon ayb. Ceir dyfyniad gan [William Williams, Pantycelyn] yma wrth i John [Morris-Jones] yntau "edrych dros y bryniau pell", wrth hiraethu am Mary. Defnyddiai arddull caligraffol yma ac acw, gan dynnu llun merch o fewn y briflythyren 'P' ar y dudalen olaf.
Date05/06/1892
Extent1 tudalen
    Powered by CalmView© 2008-2024