Description | Ymddiheurai John [Morris-Jones] i Mary Hughes camgymryd ei fod yn ei chyhuddo o'i dwyllo'n fwriadol. Mae'n cwyno wrthi am iddi beidio ag arddel ei meddwl ei hun, gan adael i eraill arfer eu hawdurdod arni. Mi fydd John yn llywyddu yn Eisteddfod Llangefni, ddydd Llun y Pasg. |