Description | Adrodd hanesion cyfeillion a welodd John [Morris-Jones] ar ei deithiau i Fangor a Blaenau Ffestiniog. Cafodd lythyr gan [Fwrdd y Llywodraeth Leol] yn gofyn iddo gyfieithu Deddf Cynghorau'r Plwyf i'r Gymraeg am £40, tâl oedd yn uwch na'r arfer. Amgaeai erthygl fer o'r Daily Chronicle am ffenomen yr 'aurora borealis' y bu Mary'n ei holi amdano. |