Description | Mae gan John [Morris-Jones] hanner dwsin o lythyrau i'w hateb, ond dim ond llythyr Mary Hughes y bydd yn ei ateb y noson honno. Gall weithio yn well wedi ei hymweliadau, meddai John, a mynnai nad oedd Mary yn tarfu arno, fel y tybiai hi. Bu John yn y Siglan, fel yr arfer, ac mae mam Mary ar ddeall, bellach, bod cryn lythyru yn mynd ymlaen rhwng ei merch [Mary Hughes], a John. |