Alt Ref NoJMJ/111
TitleLlythyr gan Owen [Morgan] Edwards at [John] Morris-Jones.
DescriptionWedi ei ysgrifennu ar y trên [rhwng Llanuwchllyn a Wrecsam]. Mae'n canmol [John] Morris-Jones am ei Gymraeg cain yn "Cyfaill mewn Llys" [sef araith gan John Morris-Jones a siaradai am ei gyfaill O.M. Edwards]. Cytunai Tecwyn [? D. Tecwyn Evans], mai pregethwr Methodist y dylai [John Morris-Jones] fod! Sôn am adroddiad Joseph Jenkins ar farwolaeth [Dafydd ap Gwilym], ac atgofion am [Gymdeithas Dafydd ap Gwilym, Rhydychen]. Disgwyl cyhoeddiad [Taliesin], gan ofyn cyfeiriad caredig at [J.] Gwenogvryn [Evans] yn y gwaith hwnnw.
Date23/07/1918
Extent1 tudalen
    Powered by CalmView© 2008-2024