Description | Llythyr a anfonwyd o Lerpwl gan R.J. Rowlands yn amgáu penillion a fwriadai ar gyfer eu cyhoeddi yn Y Beirniad [sef y cylchgrawn yr oedd John Morris-Jones yn olygydd arno ar y pryd]. Mae'n cyfeirio yn yr ôl-nodyn at argraffiad John Morris-Jones o'r "Bardd Cwsc", ac yn arbennig at ei sylwadau ar Bry'r Bendro. Teipysgrif. |